Back to Jobs
Full Time
British Council

Arts Manager, Wales

  • £30,839 per year
  • Closing date – 05 January 2025

British Council Pay band: 7 

Salary: £30,839

Location: Cardiff (successful candidate will be required to work in the Cardiff office at least twice a week)

Department: International Operations

Contract type: Indefinite (permanent)

Closing Date: 5th January 2025

You must have the legal right to work in Wales at the time of application.

There is no relocation or sponsorship support.

British Council supports working in new ways such as hybrid working, subject to full approval by line management and conditional upon our ability to provide the appropriate level of service.  This may not be appropriate for all roles but can be explored at interview.


Role purpose

The Arts Manager delivers a diverse portfolio of Arts and Creative Industry programmes funded by British Council grant, other partners or client-funders. They will implement activities in Wales delivered through the Arts four global programmes: Culture Connects, Spotlights on Culture, Creative Economy and Arts Responds to Global Challenges.

They will work with a small team in Wales led by Head of Arts, Wales and reporting to Country Director Wales and will manage sector partner and stakeholder relationships. They will also build relationships with their peers in Wales and across the global arts network, collaborating on global programme.

They will work with the Head of Arts, Wales, project funders and project partners to develop and deliver effective, high quality arts partnership projects, ensuring that our arts programme is aligned with British Council, Welsh Government and arts sector priorities in Wales.


The Role

Over the last 25 years, devolution has taken decision making and accountability closer to the people of Wales, Northern Ireland and Scotland.  In addition to our strategic alignment with FCDO and HMG priorities, we are committed to supporting the relevant international ambitions of elected Governments in Cardiff, Belfast and Edinburgh.  We factor all of this in at beginning of the choices we make, the value we seek to create and the partnerships we build.

The British Council plays an important a role in showing an imaginative and exciting vision of the United Kingdom and its four nations (and the diversity within them, and commonalities across them) to the world, through our commitment to Working for the Whole of the UK.

Our constitutional arrangements are under stress and there are challenges to the Union. Leaving the EU and COVID-19 have accentuated strains in relationships between the four Governments of the United Kingdom, which are made up of different political complexions, with no sign of that changing in the near future.


Accountabilities/Responsibilities:

 Sector/subject expertise

  • Uses their own knowledge of Wales’ arts and creative industries, intelligence and insight from other sector partners, to support the implementation of global arts programmes that meet the specific needs of Wales, while also providing value to international as well as wider UK arts and creative industry organisations.
  • Through ongoing relationships with Global arts colleagues, builds and maintains good understanding of Wales’ arts and creative industry sector priorities as well as key international and wider UK priorities.
  • Identifies opportunities for Wales’ Arts sector to work in and collaborate with peers internationally.
  • Contributes to briefings on the arts and creative industries in Wales.
  • Represents British Council in Wales as a recognised, credible authority in arts and the creative industries to external stakeholders and audiences.


Leadership & management

  • Manages Arts activities day-to-day ensuring global standards on programme and contract management are achieved.
  • Ensures effective financial management and compliance: manages and delivers to target, budgets, profitability, timelines, and to corporate quality standards in all areas.
  • Is responsible for assuring quality and impact, as well as managing issues and risks relating to programme grants, partner agreements and supplier contracts.
  • Provides specialist input and design to ensure activities under the Arts global programmes are relevant to the arts and creative industry sectors in Wales.
  • Reports monitoring, evaluation and learning against Cultural Engagement’s Strategy 2025 and FCDO key performance indicators.
  • Actively works across the matrix in the Arts network, collaborating with colleagues on programmes, while promoting equality, diversity and inclusion.
  • Uses digital platforms and technological advancements to improve efficiency, impact and quality of activity design and delivery.
  • Incorporates specific actions to address equality, diversity and inclusion priorities in programme delivery
  • Manages arts initiatives, which actively drive forward the British Council’s anti-racism action plan.


Strategy and/or planning

  • Contributes to planning process for Wales’ arts portfolio.
  • Supports the development of internal relationships across UKR and Cultural Engagement to ensure that Wales’ strategic objectives are aligned, understood and achieved
  • Considers the role of digital products, services and channels in optimising the impact and sustainability of the portfolio, working with regional marketing and digital colleagues.


Relationship & Stakeholders

  • Maintains partner relationships relevant to the Arts, and wider cultural sectors in Wales, to maintain an excellent understanding of relevant themes and issues in the arts and creative industries. Uses this insight to identify new opportunities and partnerships for British Council Wales.
  • Coordinates and builds a broad, diverse and dynamic network of key creative and cultural sector representatives in Wales, including artists, creative professionals, creative hubs, arts organisations, arts advocacy groups, intermediary and sector bodies, etc.
  • Builds and maintains the sector institutional relationships that will help open doors for artistic collaboration, cultural exchange and creative economy work.
  • Represents and communicates about British Council Wales and Global Arts programmes.
  • Represents British Council Wales at relevant external and internal meetings, deputising for Head of Arts, Wales as required.


Brand and market positioning 

  • Promotes the diversity of  Wales’ arts and creative industries sector overseas.
  • Contributes to the development of internal and external communications materials to highlight impactful stories from Wales’ arts portfolio.
  • Supports the maintenance, expansion and monitoring of PR campaigns including digital, working with British Council Wales team and Communications.
  • Manages the calendar of all arts events in/for Wales in collaboration with all partners and stakeholders, project events.
  • Ensures that British Council Wales’ reputation for quality and as a valued not-for-profit partner remains high and contributes to our organisational mission of building trust between Wales and other countries.
  • Works closely with colleagues in UKR and Cultural Engagement to feed market/customer insights into the programme development planning cycle, to ensure British Council Wales’ offer is market relevant for Wales and consistent with the British Council, Welsh Government and FCDO objectives.
  • Works with Head of Arts, Wales and Communications to ensure the Wales arts programme is effectively promoted, marketed and communicated across media, including on British Council website, print and digital in Wales, UK and in appropriate international markets.


Programme management

  • Works to ensure activities under the Arts global programmes are tailored to the specific needs of Wales, through collaboration with UKR/Cultural Engagement /overseas colleagues.
  • Manages and coordinates arts projects and programmes for British Council Wales including, where relevant, project design and delivery.
  • Manages the finances of arts projects and activity including financial and resource planning on accounting platform SAP, month-end financial monitoring and reporting, raising POs and managing external funding where relevant.
  • Manages procurement, grants and contract development/management, including due diligence.
  • Manages and timetables partner, advisory and steering group meetings, administering agendas, coordinating meetings and providing minutes and reports.
  • Responsible for tracking and managing project/programme evaluation; data collection and reporting against British Council and partner impact targets; and project/programme management reporting.
  • Manages issues with internal and external partners and stakeholders and escalates them when necessary.
  • Holds delivery partners, team members and consultants to account for agreed deliverables.


Requirements of the role:

 Minimum/Essential

Relevant undergraduate degree or equivalent professional experience

  • Good understanding of the arts & creative industries and arts policy in Wales
  • At least 3 years’ experience of working in the arts and/or creative industries sector
  • Experience of managing arts projects and liaison with multiple stakeholders and partners
  • Active and up-to-date network of diverse arts sector contacts in Wales
  • Ability to communicate effectively to diverse audiences, including verbal, written and presentation skills.
  • Active commitment to EDI

Desirable

  • Ability to communicate (speak and write) effectively in Welsh or willingness to learn.
  • Experience of working on projects between the UK and other countries
  • Experience of digitals tools, platforms, digital event planning, management and delivery ensuring that all corporate standards are met
  • Experience of building partnerships, networking
Closing date: 05/01/2025

Rheolwr Celfyddydau Cymru

Band cyflog British Council: 7
Cyflog: £30,839
Lleoliad: Caerdydd (bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd o leiaf ddwywaith yr wythnos)
Adran: Gweithrediadau Rhyngwladol
Math o gytundeb: Penagored (parhaol)
Dyddiad Cau: 5 Ionawr 2025

Rhaid bod gennych hawl gyfreithiol i weithio yng Nghymru ar adeg cyflwyno’ch cais.

Ni chynigir cymorth ar gyfer adleoli na chymorth nawdd ar gyfer y swydd hon.

Mae’r British Council yn cefnogi dulliau gweithio newydd fel gweithio hybrid, yn ddibynnol ar gymeradwyaeth lawn ein rheolaeth llinell ac yn amodol ar ein gallu i ddarparu’r lefel gwasanaeth priodol. Mae’n bosib na fydd hyn yn addas ar gyfer pob swydd, ond gellir trafod hynny ymhellach yn y cyfweliad.

Pwrpas y rôl

Mae’r Rheolwr Celfyddydau’n gyfrifol am gyflenwi portffolio amrywiol o raglenni ym maes y Celfyddydau a’r Diwydiannau Creadigol sy’n cael eu hariannu drwy grant gan y British Council, partneriaid eraill, neu arianwyr cleient. Byddant yn gyfrifol am roi gweithgareddau pedair rhaglen gelfyddydau fyd-eang ar waith yng Nghymru sef: Cysylltu Drwy Ddiwylliant (Culture Connects), Sbotolau ar Ddiwylliant (Spotlights on Culture), Economi Greadigol (Creative Economy) ac Ymateb y Celfyddydau i Heriau Byd-eang (Arts Responds to Global Challenges).

Byddant yn cydweithio gyda thîm bach yng Nghymru a arweinir gan Bennaeth y Celfyddydau yng Nghymru gan adrodd wrth Gyfarwyddwr Gwlad Cymru. Byddant yn rheoli cysylltiadau â phartneriaid a rhanddeiliaid yn y sector yn ogystal â meithrin cysylltiadau gyda chydweithwyr yng Nghymru ac ar draws y rhwydwaith gelfyddydau ryngwladol, gan gydweithio ar raglenni byd-eang.

Byddant yn gweithio gyda’r Pennaeth Celfyddydau yng Nghymru, arianwyr a phartneriaid prosiect i ddatblygu a chyflawni prosiectau partner celfyddydol effeithiol o ansawdd uchel, gan sicrhau bod ein rhaglen gelfyddydau’n cyd-fynd â blaenoriaethau’r British Council, Llywodraeth Cymru a sector y celfyddydau yng Nghymru.

Y Rôl

Dros y 25 mlynedd ddiwethaf, mae datganoli wedi symud y broses o wneud penderfyniadau ac atebolrwydd yn agosach at bobl Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Yn ogystal â’n haliniad strategol â blaenoriaethau’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a Llywodraeth Ei Fawrhydi, rydym wedi ymrwymo i gefnogi uchelgeisiau rhyngwladol perthnasol y Llywodraethau etholedig yng Nghaerdydd, Belffast a Chaeredin. Mae hyn oll yn greiddiol i’r dewisiadau yr ydym yn eu gwneud, y gwerth yr ydym yn ei geisio a’r partneriaethau yr ydym yn eu meithrin.

Mae’r British Council yn chwarae rôl bwysig wrth rannu gweledigaeth gyffrous a llawn dychymyg o’r Deyrnas Unedig a’i phedair gwlad (gyda’u holl amrywiaethau, a’r oll sy’n gyffredin rhyngddynt) ledled y byd. Rydym yn gwneud hyn drwy ein hymrwymiad i Weithio ar ran y Deyrnas Unedig Gyfan.

Mae ein trefniadau cyfansoddiadol o dan bwysau ac mae’r Undeb yn wynebu heriau. Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd a Covid-19 wedi dwysau straeniau yn y berthynas rhwng pedair llywodraeth y Deyrnas Unedig, pob un â’i hanian wleidyddol unigryw ei hunan, a does dim arwydd y bydd hyn yn newid yn y dyfodol agos.

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Arbenigedd yn y Sector / Maes

  • Defnyddio ei (g)wybodaeth ei hunan am gelfyddydau a diwydiannau creadigol Cymru, deallusrwydd, a mewnwelediad gan bartneriaid eraill yn y sector i gefnogi’r gwaith o roi rhaglenni celfyddydau rhyngwladol ar waith sy’n ateb gofynion penodol Cymru a hefyd yn dod â budd i sefydliadau diwydiannau creadigol yn rhyngwladol ac ar draws y Deyrnas Unedig yn gyffredinol.
  • Manteisio ar gysylltiadau byw gyda chydweithwyr rhyngwladol ym maes y celfyddydau i feithrin a chynnal dealltwriaeth gadarn o flaenoriaethau sector y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru – yn ogystal â blaenoriaethau rhyngwladol allweddol a blaenoriaethau ar draws gweddill y D.U.
  • Gallu gweld cyfleoedd i sector Celfyddydau Cymru weithio ynddynt a manteisio arnynt, yn ogystal â chanfod cyfleoedd i weithio gyda chydweithwyr yn rhyngwladol.
  • Cyfrannu i’r broses o friffio am y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
  • Cynrychioli’r British Council yng Nghymru fel llais cydnabyddedig ac awdurdodol am y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol i randdeiliaid a chynulleidfaoedd allanol.

    Arweiniad a Rheoli

  • Rheoli ein gweithgareddau dydd i ddydd ym maes y Celfyddydau gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau byd-eang gofynnol o ran rheoli rhaglenni a chytundebau.
  • Sicrhau rheolaeth a chydymffurfiaeth ariannol effeithiol: yn rheoli a chyflawni targedau gan ateb gofynion cyllidebol, proffidioldeb, amserlen a bodloni safonau ansawdd corfforaethol ym mhob maes.
  • Derbyn cyfrifoldeb am sicrhau ansawdd ac effaith, yn ogystal â rheoli materion a risgiau yn ymwneud â grantiau rhaglenni, cytundebau â phartneriaid a chytundebau cyflenwyr.
  • Darparu mewnbwn a gwaith cynllunio arbenigol i sicrhau bod gweithgareddau ein rhaglenni celfyddydau byd-eang yn berthnasol i sectorau’r celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.
  • Adrodd ar fonitro, gwerthuso, a gwersi a ddysgwyd yn erbyn Strategaeth Ymgysylltu Diwylliannol 2025 a dangosyddion perfformiad allweddol y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
  • Gweithio’n frwd ar draws holl fframwaith rhwydwaith y celfyddydau, gan gydweithio â chydweithwyr ar raglenni a hyrwyddo tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Defnyddio platfformau digidol a’r dechnoleg ddiweddaraf i wella effeithiolrwydd, effaith ac ansawdd cynllunio, a chyflawniad gweithgareddau.
  • Ymgorffori camau gweithredu penodol i ymdrin â blaenoriaethau tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant wrth gyflawni rhaglenni.
  • Rheoli mentrau ym maes y celfyddydau i hybu cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth y British Council.

Strategaeth a/neu Gynllunio

  • Cyfrannu i broses gynllunio portffolio celfyddydau Cymru.
  • Cefnogi datblygiad cysylltiadau mewnol ar draws gwledydd Rhanbarth y Deyrnas Unedig ac Ymgysylltu Diwylliannol i sicrhau bod blaenoriaethau strategol Cymru yn cael eu cysoni, eu deall a’u gwireddu.
  • Yn effro i rôl adnoddau, gwasanaethau a sianeli digidol i sicrhau bod y portffolio’n cael yr effaith orau bosibl a’i fod yn gynaliadwy; a chydweithio gyda chydweithwyr marchnata a digidol ar draws y rhanbarthau.
  • Cysylltiadau & Rhanddeiliaid
    Cynnal cysylltiadau gyda phartneriaid sy’n berthnasol i sectorau’r celfyddydau a sectorau diwylliannol ehangach yng Nghymru i gynnal dealltwriaeth ragorol o themâu a materion perthnasol ym meysydd y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol. Byddwch yn manteisio ar y mewnwelediad hwn i ganfod cyfleoedd a phartneriaid newydd i British Council Cymru.
  • Cydlynu ac adeiladu rhwydwaith eang, amrywiol a deinamig o gynrychiolwyr allweddol o sector y celfyddydau a diwylliant yng Nghymru, gan gynnwys artistiaid, gweithwyr creadigol proffesiynol, canolfanau creadigol, sefydliadau celfyddydol, grwpiau sy’n eirioli dros y celfyddydau, cyfryngwyr a chyrff sy’n rhan o’r sector ayb
  • Meithrin a chynnal cysylltiadau sefydliadol yn y sector a fydd yn helpu i agor drysau i gydweithio artistig, cyfnewid diwylliannol a gwaith yn yr economi greadigol.
  • Cynrychioli, cyfathrebu a rhannu gwybodaeth am British Council Cymru a rhaglenni celfyddydau byd-eang
  • Cynrychioli British Council Cymru mewn cyfarfodydd mewnol ac allanol perthnasol, gan ddirprwyo ar ran Pennaeth Celfyddydau Cymru yn ôl y gofyn.

Brandio a safle yn y farchnad

  • Hyrwyddo holl amrywiaeth sector celfyddydau a diwydiannau creadigol Cymru dramor.
  • Cyfrannu i’r gwaith o ddatblygu deunydd cyfathrebu mewnol ac allanol i amlygu straeon trawiadol am bortffolio celfyddydau Cymru.
  • Cefnogi’r gwaith o gynnal, ehangu a monitro ymgyrchoedd Cysylltiadau Cyhoeddus gan gynnwys ymgyrchoedd digidol, gan weithio gyda thîm British Council Cymru a’r tîm Cyfathrebu.
  • Rheoli amserlen yr holl weithgareddau sy’n digwydd yng Nghymru neu ar ran Cymru mewn cydweithrediad â’n holl bartneriaid a rhanddeiliaid a’n digwyddiadau prosiect.
  • Sicrhau cynnal enw da British Council Cymru o ran ansawdd ein gwaith ac fel partner nid-er-elw gwerthfawr, a chyfrannu i genhadaeth ein sefydliad i feithrin ymddiriedaeth rhwng Cymru a gwledydd eraill.
  • Gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws gwledydd Rhanbarth y Deyrnas Unedig ac Ymgysylltu Diwylliannol i sicrhau bod mewnwelediad cwsmeriaid/y farchnad yn rhan o’r broses o gynllunio datblygiad ein rhaglenni a sicrhau bod cynnig British Council Cymru’n berthnasol i amcanion y farchnad, Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu.
  • Gweithio gyda Phennaeth y Celfyddydau yng Nghymru a’r tîm Cyfathrebu i sicrhau bod rhaglen gelfyddydau Cymru yn cael ei hyrwyddo, ei marchnata a’i rhannu ar draws y cyfryngau, gan gynnwys cyfryngau print a digidol yng Nghymru a’r D.U. ac mewn marchnadoedd rhyngwladol priodol.

Rheoli Rhaglenni

  • Sicrhau bod gweithgareddau ein rhaglenni celfyddydau byd-eang yn cael eu teilwra i anghenion penodol Cymru, drwy gydweithio â chydweithwyr yng ngwledydd Rhanbarth y Deyrnas Unedig/Ymgysylltu Diwylliannol a thramor.
  • Rheoli a chydlynnu prosiectau a rhaglenni ym maes y celfyddydau ar ran British Council Cymru gan gynnwys, lle bo’n berthnasol, cynllunio a chyflawni prosiectau.
  • Rheoli cyllidebau prosiectau a gweithgareddau celfyddydol gan gynnwys gwaith cynllunio ariannol a chynllunio adnoddau drwy ddefnyddio platfform cyfrifo SAP, monitro, a pharatoi adroddiadau ariannol misol, trefnu Archebion Prynu a rheoli ariannu allanol lle bo’n berthnasol.
  • Rheoli caffaeliad, grantiau a datblygu/rheoli cytundebau gan gynnwys diwydrwydd dyladwy.
  • Rheoli ac amserlennu cyfarfodydd grwpiau a phwyllgorau partner, pwyllgorau ymgynghorol a phwyllgorau llywio gan baratoi agendâu, cydlynu cyfarfodydd a darparu cofnodion ac adroddiadau.
  • Yn gyfrifol am ddilyn a rheoli prosesau gwerthuso prosiectau/rhaglenni; casglu data ac adrodd yn erbyn targedi effaith y British Council a phartneriaid; ac adrodd ar reolaeth prosiectau / rhaglenni.
  • Rheoli materion sy’n codi gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allanol a’u cyfeirio at swyddog uwch pan fo angen.
  • Dwyn partneriaid cyflenwi, aelodau tîm ac ymgynghorwyr i gyfrif am gyflawni amcanion a/neu ganlyniadau y cytunwyd arnynt.

Gofynion y rôl:

Hanfodol

  • Gradd berthnasol neu brofiad proffesiynol cyfatebol
  • Dealltwriaeth gadarn o faes y celfyddydau, diwydiannau creadigol a pholisi’r celfyddydau yng Nghymru
  • O leiaf 3 mlynedd o brofiad o weithio yn sector y celfyddydau a/neu sector y diwydiannau creadigol
  • Profiad o reoli prosiectau celfyddydol a chyfathrebu â rhanddeiliaid a phartneriaid niferus
  • Rhwydwaith fyw a chyfredol o gysylltiadau amrywiol yn sector y celfyddydau yng Nghymru
  • Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol gydag amrywiaeth o wahanol gynulleidfaoedd gan gynnwys sgiliau llafar, ysgrifenedig a chyflwyno
  • Ymrwymiad gweithredol i Degwch, Amrywiaeth a Chynhwysiad.
    Dymunol
  • Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) neu barodrwydd i ddysgu
  • Profiad o weithio ar brosiectau rhwng y Deyrnas Unedig a gwledydd eraill
  • Profiad o adnoddau a phlatfformau digidol ac o gynllunio, rheoli a chyflawni digwyddiadau digidol gan sicrhau ateb gofynion safonau corfforaethol
  • Profiad o feithrin a datblygu partneriaethau a rhwydweithio

Editorial Partners